Casgliad: Angela Evans

Mae Angela Evans wedi bod yn creu gemwaith cyfoes â llaw gyda thechnegau traddodiadol mewn arian ac aur ers 2004 ar ôl gorffen ei gradd yn y pwnc ym Mhrifysgol Loughborough.

Gwifren yw'r prif ddeunydd, wedi'i forthwylio, ei weadu a'i ail-greu trwy dorri a sodro'n fanwl. Mae palet lliwgar o gerrig coeth a manylion cain wedi'u hychwanegu gyda gronynniad ac arwynebau gweadog yn cyfoethogi pob darn ymhellach.
Mae gemwaith Angela yn fywiog ac yn gywrain gan roi esthetig cyffredinol beiddgar sy'n dal i fod yn bert ag ysgafn.