Creu Set o Fodrwyau Pentyrru Arian 27/09/2025
Creu Set o Fodrwyau Pentyrru Arian 27/09/2025
05-10-2024
10am - 4pm
Gydag Angela Evans.
Creu set o modrwyau pentyrru mewn arian sterling.
Byddwn yn ymarfer mewn copr yn y bore a byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio llif manwl, creu gwead ar fetel gyda thechnegau morthwyl addurniadol a stampiau metel, sodro, gorffen a sgleinio.
Bydd y cwrs crefft yn cael ei gynnal yn Siop iard.
Mae Angela Evans yn ddylunydd gemwaith cain a chyfoes a ysbrydolwyd gan amgylchedd naturiol Eryri. Mae gan Angela wyth casgliad o emwaith ac mae hefyd yn creu modrwyau priodas, dyweddïo ac achlysuron arbennig mewn arian, aur, platinwm a cerrig gwerthfawr. Mae gan Angela dros 20 mlynedd o brofiad gwneud gemwaith ac mae’n un o bartneriaid Siop iard. Mae hi wedi cwblhau PGC mewn Addysg ac wedi ymgymryd â hyfforddiant pellach mewn gosod cerrig uwch yn yr Alban a Lloegr. Mae ei phrofiad dysgu yn cynnwys cyfnod o amser fel darlithydd coleg mewn gemwaith a chelf, nifer o brosiectau cymunedol gydag ysgolion a grwpiau lleol yn ogystal â dysgu’n breifat.