Neidio i 'wybodaeth cynnyrch
1 o 3

craftcourse

Creu Modrwy Torch Arian 11/01/2025

Creu Modrwy Torch Arian 11/01/2025

Pris Arferol £80.00 GBP
Pris Arferol Pris Sêl £80.00 GBP
Sêl Wedi Gwerthu Allan
Treth wedi'i chynnwys. Cludo wedi'i gyfrifo wrth y ddesg dalu.

10am - 1pm

Gydag Angela Evans.

Dewch i greu modrwy torch hardd mewn arian Sterling. Byddwch yn dysgu am fesur maint eich modrwy i ffitio chi, sut i weadu a gorffennu'r metel yn ogystal â sgleino â llaw i wneud iddo ddisgleirio. Ni ddysgir sodro yn ystod y dosbarth hwn.

Bydd y cwrs crefft yn cael ei gynnal yn Siop iard Caernarfon.

Mae Angela Evans yn ddylunydd gemwaith cain a chyfoes a ysbrydolwyd gan amgylchedd naturiol Eryri. Mae gan Angela wyth casgliad o emwaith ac mae hefyd yn creu modrwyau priodas, dyweddïo ac achlysuron arbennig mewn arian, aur, platinwm a meini gwerthfawr. Mae gan Angela dros 20 mlynedd o brofiad gwneud gemwaith ac mae’n un o bartneriaid Siop iard. Mae hi wedi cwblhau PGC mewn Addysg ac wedi ymgymryd â hyfforddiant pellach mewn gosod cerrig uwch yn yr Alban a Lloegr. Mae ei phrofiad dysgu yn cynnwys cyfnod o amser fel darlithydd coleg mewn gemwaith a chelf, nifer o brosiectau cymunedol gydag ysgolion a grwpiau lleol yn ogystal â dysgu’n breifat.

 

Gweld y manylion llawn